Luton 1-1 Casnewydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunRheolwr clwb Casnewydd, Warren Feeney, yn cymeradwyo'r dorf.

Mae Casnewydd wedi sicrhau y byddan nhw'n aros yn yr Ail Adran y tymor nesaf ar ôl ennill pwynt oddi cartref yn Luton.

Aeth Casnewydd ar ei hôl hi'n hwyr yn y gêm ond llwyddodd Souleymane Coulibaly i achub y pwynt gyda gôl cyn y chwiban olaf.