Caerdydd 2-1 Bolton
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Kenneth Zohore'n dod a Chaerdydd yn gyfartal yn erbyn Bolton.
Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau gyfle yn y Bencampwriaeth yn dal yn fyw wedi buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Bolton.
Er i'r tîm cartref fynd ar ei hôl hi yn gynnar yn y gêm, fe frwydron nhw'n ôl yn yr ail hanner gyda goliau gan Kenneth Zohore a chic o'r smotyn gan Peter Whittingham ym munudau ola'r gêm.
Mae'r Adar Gleision bedwar pwynt y tu ôl i Sheffield Wednesday, gyda dwy gêm i fynd cyn diwedd y tymor.