Y Gwyll: Gwobrau teledu yn yr Unol Daleithiau

Richard Harrington Image copyright S4C
Image caption Richard Harrington (chwith wrth y ddesg) sy'n chwarae y brif ran yn Y Gwyll

Mae'r gyfres ddrama dditectif Y Gwyll / Hinterland, a ffilmiwyd yng Ngheredigion, wedi ennill gwobrau teledu yn yr Unol Daleithiau.

Enillodd wobr y Grand yng Ngwobrau Ffilm Ryngwladol a Theledu Efrog Newydd 2016, a roddir i grŵp o raglenni sy'n cael y sgôr uchaf ymhlith yr holl geisiadau.

Sicrhaodd hefyd fedal aur yn y categori drama troseddau.

Mae'r cast a'r criw ar hyn o bryd yn ffilmio'r drydedd gyfres o'r ddrama ddwyieithog ar gyfer BBC One Cymru ac S4C.

Straeon perthnasol