Lluniau: Proms Cymru

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Yr haul yn machlud dros Brom Penarth

O...na sori. Nid Proms Cymru, yr ŵyl ond proms Cymru, sef mannau i gerdded wrth ochr y môr.

Mae'n ddrwg 'da ni am unrhyw ddryswch.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth awyr Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Prom Llandudno o'r awyr
Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Pier Aberystwyth o'r prom
Disgrifiad o’r llun,
Llecyn i chi gael cysgodi ar ddiwedd prom Porthcawl
Disgrifiad o’r llun,
Ochr ddeheuol prom Mwmbwls nôl yn yr oes a fu
Ffynhonnell y llun, Josh Cooper
Disgrifiad o’r llun,
Jeti Aberdyfi wrth i'r haul fachlud
Ffynhonnell y llun, Iwan Williams
Disgrifiad o’r llun,
Pen draw pier Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Prom Bae Colwyn cyn i'r pier gael ei adeiladu. A fydd e'n edrych fel hyn eto cyn bo hir?
Disgrifiad o’r llun,
Pen pellaf prom Biwmares
Disgrifiad o’r llun,
Mae prom Porthcawl yn medru bod yn beryglus yn ôl y sôn!

Gyda llaw mae tymor Proms Cymru, yr ŵyl gerddorol yn dechrau yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd Nos Sadwrn 16 Gorffennaf gyda pherfformiad o Requiem gan Verdi.

Bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, y soprano Rebecca Evans, Cantorion Ardwyn a Chôr Polyffonig Caerdydd ymhlith yr artistiad fydd yn perfformio dan arweiniad Owain Arwel Hughes