Enwi merch ar ôl y cyffur Cyanide yn 'annerbyniol'
- Cyhoeddwyd

Mae mam o Bowys wedi cael ei gwahardd rhag galw ei babi yn Cyanide ar ôl y gwenwyn a gymrodd Adolf Hitler cyn iddo'i saethu ei hun.
Roedd y wraig hefyd wedi dewis yr enw Preacher ar gyfer efaill y ferch fach, gan ddweud bod ganddi hawl dynol i enwi ei phlant ei hun.
Dywedodd fod Cyanide yn "enw hyfryd, hardd" a bod iddo arwyddocâd positif am fod Hitler wedi ei gymryd.
Dyfarnodd y Llys Apêl y gallai'r dewis anarferol niweidio'r plant.
Problemau iechyd meddwl
Mae'r efeilliaid a phlant eraill y fam wedi eu rhoi mewn gofal.
Clywodd y llys fod gan y fam hanes o broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â phroblemau cyffuriau ac alcohol.
Pan glywodd gweithwyr cymdeithasol ym Mhowys yr enwau yr oedd y fam wedi eu dewis ar gyfer yr efeilliaid, aethon nhw â'r achos i gyfraith.
Ym mis Mehefin, cyflwynodd barnwr orchymyn yn erbyn y fam, yn ei gwahardd rhag cofrestru enwau cyntaf yr efeilliaid.
Apeliodd cyfreithwyr, gan ddadlau ei fod yn mynd yn groes i hawliau'r fam.
Ond dywedodd yr Arglwyddes Ustus King fod enwi ei merch fach ar ôl y gwenwyn yn annerbyniol.
Er nad oedd unrhyw beth mawr o'i le ar alw ei mab yn Preacher, dyfarnodd y dylai enwau'r plant gael eu dewis gan eu hanner brodyr a chwiorydd.
Dywedodd yr Arglwyddes Ustus King: "Hyd yn oed o ystyried fod chwaeth, ffasiwn a syniadau unigolion yn newid ac yn datblygu, mae Cyanide yn enw rhyfedd iawn i'w roi ar ferch fach."
Dywedodd y fam bod cysylltiad rhwng Cyanide a blodau a phlanhigion, a'i fod yn "gyfrifol am ladd Hitler a Goebbels a dwi'n ystyried hynny'n beth da".
Cymerodd Hitler ynghyd ag Eva Braun y gwenwyn ym mis Ebrill 1945, cyn saethu ei hun.
Dywedodd yr Arglwyddes Ustus King fod llysoedd yn ymyrryd i atal rhieni rhag enwi eu plant "yn yr achosion mwyaf eithafol yn unig".