Bwrw pleidlais

Mae 'na sawl ffordd o ethol neu ddethol deddfwrfa. Maen nhw'n amrywio o rai sy'n hynod ddemocrataidd i'r rheiny sy'n gyfan gwbwl gwallgof.

Mae isetholiad a gynhelir wythnos nesaf yn sicr yn syrthio i'r ail ddosbarth. Mae dau ymgeisydd yn cystadlu am sedd yn San Steffan ac mae gan hyd at dri o bobol yr hawl i fwrw pleidlais. Mae'r 'etholiad' rhyfedd hwn yn cael ei gynnal i ddewis aelod newydd o Dŷ'r Arglwyddi a'r unig bobol sydd a'r hawl i sefyll yw arglwyddi etifeddol sy'n aelodau o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Y tri Rhyddfrydwr etifeddol sydd eisoes yn y Tŷ sy'n cael pleidleisio.

Fe fyddai'n anodd iawn dod o hyd i wleidydd o unrhyw blaid fyddai'n amddiffyn y gyfundrefn ond mae sawl ymdrech i'w newid wedi diflannu i'r gwellt. Bellach mae system oedd i fod yn gyfaddawd dros dro a gyflwynwyd yng ngwawrddydd Tony Blair wedi bwrw gwreiddiau a gallwn ddisgwyl i'r gwallgofrywdd hwn barhau am flynyddoedd eto.

Rhag ofn bod chi eisiau gwybod Iarll Russell ac Is-iarll Thurso yw'r ymgeiswyr yn yr etholiad ac Arglwydd Addington, Iarll Glasgow ac Iarll Rhydychen ac Asquith yw'r etholwyr. Na, dydw i ddim yn gwybod pwy ydyn nhw chwaith.

Dyw cyfundrefn bleidleisio Cynulliad Cymru ddim yn yr un dosbarth o safbwynt gwiriondeb. Eto i gyd mae ganddi nodweddion sy'n gallu gwneud etholiadau Cynulliad yn bethau digon rhyfedd.

Dydw i ddim am ailgylchu hen bregeth trwy esbonio manylion y system ond yn y bôn mae Llafur yn gallu bod yn saff o ennill bron i hanner y seddi ym Mae Caerdydd trwy sicrhau oddeutu traean o'r bleidlais genedlaethol.

Nid trwy hap a damwain y mae hynny'n digwydd - dyna oedd y bwriad o'r cychwyn. Lluniwyd y system gyda'r bwriad o sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posib i ddatganoli yn refferendwm 1997. Roedd y gogwydd tuag at Lafur yn falm ar galonnau gwrth-ddatganolwyr o fewn y blaid honno tra bod yr elfen gyfrannol yna i argyhoeddi pawb arall nad fersiwn genedlaethol o Gyngor Sir Morgannwg Ganol oedd yn cael ei chynnig.

Gyda chyfrifoldeb dros y system etholiadol yn symud o San Steffan i Gaerdydd fe fyddai'n ddigon hawdd i'r Cynulliad nesaf lunio system fwy cyfrannol. Fe fyddai dyblu nifer yr aelodau rhestr, er enghraifft, yn ffordd hawdd iawn o sicrhau Cynulliad mwy cynrychioladwy.

Y cyfan fyddai angen fyddai darbwyllo Aelodau Cynulliad Llafur i gefnogi'r newid. Twrciod. Nadolig.

Ond mae 'na ffordd arall i'r gwrthbleidiau dorri crib y blaid Lafur. Gellir crynhoi strategaeth honno mewn un gair sef ennill. I fod yn fwy penodol fe fyddai asgwrn y gynnen yn diflannu pe bai'r gwrthbleidiau yn llwyddo i ennill seddi etholaethol yn y tri rhanbarth deheuol.

Nid bai'r system na'r blaid Lafur yw'r ffaith bod y pleidiau eraill wedi methu gwneud hynny. Maen nhw wedi cael sawl cyfle ac unwaith yn unig fyddai'n rhaid torri crib y blaid Lafur er mwyn newid y drefn yn barhaol.

Tawed y brefu felly. Gan ei bod hi'n bedwar canmlwyddiant geni Shakespeare efallai bod hi'n bryd i'r gwrthbleidiau ystyried dyfyniad o'i eiddo.

"The fault, dear Brutus, is not in our stars, But in ourselves"