Iechyd meddwl: 'Disgwyl blynyddoedd' am driniaeth
- Cyhoeddwyd

Mae cleifion yn gorfod disgwyl nifer o flynyddoedd ar gyfer rhai triniaethau iechyd meddwl, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Tra bod nifer o gleifion gyda phroblemau aciwt a chronig yn cael triniaeth o fewn wythnos, mae gan rai ardaloedd restrau aros o hyd at bedair blynedd.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud bod yr oedi yn "annerbyniol".
Dywedodd Llafur Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, bod gwariant ar iechyd meddwl wedi cynyddu £3m y llynedd.
Roedd yr oedi mwyaf ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ble gall gleifion ddisgwyl hyd at bedair blynedd a dau fis i weld seicolegydd clinigol.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod hyn oherwydd "problemau salwch tymor hir" a'u bod yn bwriadu recriwtio mwy o staff.
Ymateb
Dywedodd Charlotte Jones o Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru: "Mae'n annerbyniol. Dyw hyn ddim yn iawn i gleifion Cymru.
"Rydyn ni angen gweld mwy o fuddsoddiad a gweld ymrwymiad i ddod o hyd i ddatrysiad i'r broblem unwaith ac am byth."
Yn ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ei bod yn amser trin iechyd meddwl "mor ddifrifol ag iechyd corfforol" ac y bydden nhw'n cyflwyno safonau newydd ar gyfer amseroedd aros iechyd meddwl.
Dywedodd UKIP y byddai'r blaid yn cynyddu'r gwariant ar ofal iechyd gyda £100m wedi'i arbed "o lefydd arall yng nghyllid Cymru".
Yn ôl Plaid Cymru, bydden nhw'n cynyddu buddsoddiad o 2% - £68m - pobl blwyddyn nes 2020/21.
Dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr Cymru y bydden nhw'n cynyddu'r gwariant ar iechyd meddwl, gan greu targed 28 diwrnod ar gyfer rhyw fath o driniaeth.
Ond mynnodd Llafur eu bod wedi gwneud newidiadau mawr er gwell i ofal iechyd meddwl, gan gyflwyno targed 28 diwrnod ar gyfer 80% o gleifion i dderbyn triniaeth.