Gwahardd rhag cadw anifeiliaid

Un o'r ystafelloedd Image copyright other
Image caption Dywedodd yr RSPCA fod amodau byw yr anifeiliaid yn ofnadwy

Mae dyn a dynes o Lanelli wedi cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am ddeng mlynedd.

Roedd Natalie Alker, 46 a Steve Alker 51, wedi methu â sicrhau anghenion ci, pum cath, neidr a bochdew.

Clywodd y llys nad oedd Mr Alker chwaith wedi sicrhau fod yna ddigon o gynhesrwydd ar gyfer y neidr.

Dywedodd yr arolygydd Keith Hogben fod yr anifeiliaid mewn lle cwbl anaddas.

"Roedd yr amodau yn ddifrifol, roedd yna fisoedd o faw'r anifeiliaid ym mhob ystafell."

Yn ogystal â'u gwahardd rhag cadw anifeiliaid fe gafodd y ddau orchymyn cymunedol 12 mis i wneud 70 awr o waith di-dâl, ynghyd â dirwy a chostau o £360.

Image copyright RSPCA