Cynghorau: Cyfle i 'achub' y drefn bresennol

Cynghorau
Image caption Ar hyn o bryd mae yna 22 o gynghrau sir yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu nifer o wasanaethau cyhoeddus

Mae gan etholwyr Cymru gyfle drwy etholiad y Cynulliad i "achub" eu cynghorau sir rhag gorfod uno, meddai'r Ceidwadwyr Cymreig.

Dywed y blaid nad yw'r cyhoedd wedi cael unrhyw lais o ran cynlluniau Llafur i leihau nifer yr awdurdodau o 22 i wyth neu naw.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y bydden nhw'n caniatáu i gynghorau uno yn wirfoddol, ond dim ond pe bai pobl leol yn cefnogi newid o'r fath mewn refferendwm.

Dywedodd Janet Finch-Saunders, llefarydd y blaid ar lywodraeth leol, mai dim ond y Ceidwadwyr sy'n gaddo rho'r gair olaf i drigolion lleol.

"Mae Llafur wedi ymroi yn llwyr i orfodi ad-drefnu llywodraeth leol, ac yn wahanol i'r Ceidwadwyr maen nhw'n gwrthod rhoi'r cyfle i gymunedau lleol fynegi eu barn mewn refferendwm," meddai.

"Tra ein bod yn derbyn fod yn rhaid lleihau costau, a bod cynlluniau Llafur yn amlinellu problem go iawn - maen nhw hefyd yn anwybyddu barn cymunedau lleol yn llwyr."

Ychwanegodd nad oedd hi'n meddwl fod yn y cynlluniau newydd yn ystyried o gwbl pa wasanaethau y dylai'r cynghorau newydd ei ddarparu.

Ym mis Mawrth fe ddywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llafur, fod yr ymgynghoriad ar leihau nifer y cynghorau wedi bod yn gefnogol.

Ond ychwanegodd fod angen mwy o waith er mwyn sicrhau bod cynghorau yn parhau â chysylltiadau agos gyda'u cymunedau.

Image caption Map posibo gynlluniau Llafur ar gyfer cynghorau Cymru, fyddai'n cynnwys wyth sir

Dywed Plaid Cymru y bydden nhw'n cadw'r cynghorau presennol, ond yn y pendraw yn sefydlu hyd at chwech o ranbarthau, gyda chynghorau yn cydweithio o fewn rheiny.

Byddai'r rhanbarthau yn cael eu harwain gan feiri etholedig, meddai'r blaid.

"Golygai hyn byddai arbedion yn cael eu gwneud wrth i'r cynghorau gydweithio, ond byddai'r drefn yn sicrhau fod yna atebolrwydd lleol," meddai llefarydd.

Dywedodd Peter Black ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod ei blaid o'r farn fod gormod o gynghorau, gyda rhai yn rhy fach ac yn tan berfformio.

Ond ychwanegodd y dylai cynghorau mwy o faint fod â system bleidleisio fwy teg "ac na ddylai gweledyddion fod yn gyfrifol am lunio'r ffiniau".

"Dylai hyn gael ei gwneud gan Gomisiwn Ffiniau annibynnol, ac wedi ei seilio ar gymunedau naturiol," meddai.

Dywedodd Mark Reckless, llefarydd UKIP, fod ei blaid yn gweld y ddadl dros gynghorau llai, ond ychwanegodd: "Rydym yn credu y dylai'r newidiadau ddod o'r 'gwaelod lan' mewn ymateb i farn y cymunedau, yn hytrach na'u bod yn cael eu gorfodi oddi uchod."