Troed 'ddynol' wedi ei chanfod ar draeth ym Môn
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod troed - sydd, mae'n ymddangos - yn un ddynol wedi ei chanfod ar draeth yn Ynys Môn.
Daeth cadarnhad i aelod o'r cyhoedd ddod o hyd i'r gweddillion ar draeth Tal Y Foel ger Dwyran am 13:30, brynhawn Mawrth.
Bydd yr eitem yn cael ei yrru am brofion gan arbenigwr fforensig ac mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i grwner.
Does dim manylion pellach ar hyn o bryd, ond mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.