Pryder cynyddol am ddynes o Gaernarfon sydd ar goll

Averil
Image caption Cafodd Averil Whitfeild ei gweld diwethaf yn ei chartref yng Nghaernarfon

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod yn gynyddol bryderus am ddiogelwch dynes o Gaernarfon sydd ar goll.

Nid yw Averil Whitfield, sy'n 57 oed, wedi ei gweld ers 1 Ebrill.

Cafodd ei disgrifio fel menyw wen a main gyda gwallt byr coch.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ei gweld neu sydd â gwybodaeth am ei lleoliad i ffonio Heddlu'r Gogledd ar 101 a chyfeirio at achos rhif 15235.