Casnewydd 0-2 Accrington Stanley

Casnewydd 0-2 Accrington Stanley

Fe sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl yn yr hanner cynta' i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Casnewydd.

Billy Kee sgoriodd y gynta', ac fe ddyblodd Josh Windass y sgôr ddau funud yn ddiweddarach.

Mae Accrington Stanley yn symud i'r pedwerydd safle ond yn parhau un pwynt yn brin o'r safleoedd fyddai'n sicrhau dyrchafiad.

Yn y cyfamser, mae Casnewydd yn disgyn i'r 18fed safle yn y tabl ar ôl eu trydydd colled o'r bron.