BBC Cymru Fyw

Dynes wedi marw mewn damwain ffordd ym Mhowys

Published
image copyrightGoogle
image captionYr A483
Mae dynes 83 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A483 ym Mhowys.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod yna bump o geir yn rhan o'r gwrthdrawiad ger y Trallwng am 14:50 ddydd Gwener.
Cafodd y ffordd ei chau yn dilyn y digwyddiad.
Bu farw'r ddynes wrth safle i'r ddamwain ac aed â dynes arall i'r ysbyty.
Mewn damwain arall ym Mhowys ddydd Gwener bu rhan o'r A470 yn Rhaeadr ar gau rhwng 12:00 a 17:30 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar.