Plaid Cymru: Cyhoeddi cynlluniau treth 'radical'

Treth

Byddai cannoedd o filoedd o gartrefi yng Nghymru yn talu llai o dreth y cyngor o dan gynlluniau gan Blaid Cymru.

Dywed y blaid y byddai'n diwygio'r dreth, sy'n seiliedig ar werth eiddo, petai'n ennill etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Byddai'r trethdalwyr ym mand isaf treth y cyngor yn arbed hyd at £400 y flwyddyn, ond fe fyddai'r 26% uchaf yn talu mwy, meddai Plaid Cymru.

Mae'r blaid wedi ymrwymo i beidio cynyddu treth incwm os bydd grymoedd i addasu'r dreth yn cael eu datganoli o fewn pum mlynedd, ond fe fyddai gostyngiad bychan yng nghyfradd uchaf y dreth.

Wrth gyhoeddi'r polisïau mewn araith yng Nghaerdydd, dywedodd Adam Price ar ran y blaid y byddai creu "cyfradd ganolog" newydd o dreth incwm yn golygu cwtogi'r gyfradd uwch bresennol.

Wrth drafod treth y cyngor, dywedodd Plaid Cymru y byddai perchnogion tai ym mandiau E i I yn gorfod talu mwy er mwyn galluogi perchnogion tai yn y bandiau isaf i gael gostyngiad yn eu biliau.

Byddai'r newidiadau'n cael eu cyflwyno dros nifer o flynyddoedd, gydag eithriad i'r rhai oedd yn "gyfoethog mewn asedau ond yn dlawd o incwm", sef pensiynwyr ar y cyfan.

Image caption Byddai 200,000 o berchnogion tai yn talu hanner maint eu biliau presennol, yn ôl Adam Price

Mae Mr Price yn gyn-aelod seneddol i Blaid Cymru ag yn ymgeisydd yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ym mis Mai.

Dywedodd: "Mae yn ein grym i ddiwygio'r dreth fwyaf atchweliadol yn yr ynysoedd hyn mewn ffordd radical, sydd yn etifeddiaeth o gyfnod Thatcher, sef treth y cyngor cwbl annheg sydd yn hawlio pedair gwaith yn fwy o gyfoeth y tlawd o gymharu gyda'r cyfoethog.

"Nid dyma'r ffordd Gymreig, ac fe fyddwn yn cymryd camau i fynd i'r afael a'r anghyfiawnder yma."

Dywedodd y byddai 200,000 o berchnogion tai yn talu hanner maint eu biliau presennol, gyda 600,000 yn arbed rhwng £160 a £260 y flwyddyn.

Ond fe ddywedodd y Ceidwadwyr fod y cynlluniau'n dystiolaeth o sialens i awdurdod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Dywedodd Janet Finch-Saunders ar ran y Ceidwadwyr: "Mae hwn yn dipyn o dro pedol i blaid addo torri treth y cyngor pan maen nhw wedi pleidleisio dro ar ôl tro yn erbyn galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i rewi treth y cyngor yng Nghymru."

Etholiad

Yr etholiad ar 5 Mai fydd y cyntaf lle bydd y prif bleidiau'n cyhoeddi eu cynlluniau am dreth incwm i'r etholwyr:

  • Plaid Cymru - Dim cynnydd yng nghyfraddau treth incwm, ond "cyfradd ganolog" newydd fydd yn golygu gostyngiad bychan yn y gyfradd uwch bresenol
  • Llafur - Dim newidiadau i dreth incwm dros gyfnod y Cynulliad nesaf
  • Y Ceidwadwyr - Gostwng y gyfradd uwch o 40% i 35% a'r gyfradd sylfaenol o 20% i 19%
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol - Gostwng y gyfradd sylfaenol i 19%
  • UKIP - Yn galw am refferendwm cyn i dreth gael ei ddatganoli

Fe amcangyfrifir y byddai torri'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm o un geiniog yn costio tua £180m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.