Apêl Ched Evans: Neilltuo dyfarniad

Ched Evans Image copyright PA

Mae panel o farnwyr yn y Llys Apêl wedi penderfynu neilltuo dyfarniad yn achos apêl cyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Ched Evans.

Clywodd y llys y byddai penderfyniad a rheswm dros ddyfarniad y barnwyr yn cael ei roi "cyn gynted a phosib ym mis Ebrill", gyda chyfyngiadau gohebu manylion yr achos yn parhau tan hynny.

Clywodd y llys ddadleuon gan dîm cyfreithiol Ched Evans a Gwasanaeth Erlyn y Goron fore Mercher, gyda thystiolaeth newydd yn cael ei ystyried.

Cafodd y cyn ymosodwr i Sheffield United ei garcharu ar ôl i lys ei gael yn euog o dreisio dynes 19 oed yn Rhuddlan yn 2012, ond mae wedi mynu ei fod yn ddieuog erioed.

Os bydd ei apêl yn llwyddianus, mae'r erlyniad wedi awgrymu y byddai'n ceisio dwyn achos newydd.