Ymgyrch aros yn Ewrop: 'Angen ychydig o ofn'

Geraint Talfan Davies
Image caption Cyn-reolwr BBC Cymru, Geraint Talfan Davies yw cadeirydd Cymru'n Gryfach yn Ewrop

Mae cadeirydd grŵp sy'n ymgyrchu i'r DU aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud bod angen "ychydig o ofn" ar gyfer "hunangadwraeth".

Yn lansio ymgyrch Cymru'n Gryfach yn Ewrop, dywedodd Geraint Talfan Davies bod digwyddiadau o amgylch y byd yn golygu bod "llawer i fod yn ofnus ohono".

Roedd yn ymateb i'r awgrym bod yr ymgyrch i aros yn rhan o'r Undeb yn defnyddio ofn fel tacteg i berswadio pleidleiswyr.

Mae'r ymgyrch i adael yn mynnu y byddai'r dyfodol yn "fwy disglair" pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Davies: "Pan rwy'n edrych o amgylch y byd mae dipyn i fod yn ofnus ohono.

"Mae gennych chi ryfel byd bach yn mynd 'mlaen yn y Dwyrain Canol, mae gennych chi'r llif mwyaf o bobl ers yr Ail Ryfel Byd ac mae gennych chi Vladimir Putin yn chwarae rhan yn Iwcrain a hefyd yn ceisio siglo Ewrop.

"Mae cael ychydig o ofn yn realistig a dyma'r ffordd orau i sicrhau hunangadwraeth."

'Rheolaeth'

Ond mae Sam Gould o grwp Grassroots Out yn anghytuno.

"Bydd dyfodol pawb yn fwy disglair pan dy'n ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd," meddai.

"Y ffaith yw, byddwn ni'n gallu cael rheolaeth dros ein cyfreithiau ein hunan. Fe allan ni wneud ein penderfyniadau ein hunan.

"Byddan ni'n gallu rheoli nawdd yn y DU, yn hytrach na gadael i fiwrocratiaid anetholedig, sydd ddim yn atebol, ym Mrwsel i wario ein harian."