Trwy Fy Llygaid i: Mawrth

Cyhoeddwyd

Mae Cymru Fyw yn rhoi cyfle i ffotograffydd gwadd rannu rhai o'r lluniau maen nhw wedi eu tynnu yn ystod y mis. Dyma i chi ddetholiad Medwyn Roberts o Aberystwyth o rai o'r lluniau trawiadol dynnodd o yn ystod mis Mawrth. Fel y gwelwch chi mae Medwyn wedi teithio tipyn i wahanol rannau o Gymru yn ystod y mis:

Disgrifiad o’r llun,
Storm Jake yn corddi'r môr ger Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Trên bach Rheilffordd Ffestiniog wrth odre'r Cnicht
Disgrifiad o’r llun,
Cyfaill newydd ar lethrau Cader Idris
Disgrifiad o’r llun,
Drudwennod Aberystwyth yn denu ffotograffwyr
Disgrifiad o’r llun,
Eira dros hen fwa ystâd Hafod yng Ngheredigion
Disgrifiad o’r llun,
Castell Talacharn
Disgrifiad o’r llun,
Portmeirion dros yr aber
Disgrifiad o’r llun,
Crwydro adfeilion chwarel lechi Maenofferen, Blaenau Ffestiniog
Disgrifiad o’r llun,
Cigfran yn hofran dros fwlch Talyllyn
Disgrifiad o’r llun,
Un o awyrennau'r Llu Awyr o'r Fali yn ymarfer uwchben Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,
Llanw isel yn dod â choedwig hynafol Borth i'r amlwg
Disgrifiad o’r llun,
Taenwch fy llwch yn Ystrad Fflur
Disgrifiad o’r llun,
Ymlacio ar Draeth y De, Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Bysciwr ar stryd fawr Conwy
Disgrifiad o’r llun,
Machlud haul, Aberystwyth

Gallwch weld rhagor o luniau gwych Medwyn Roberts trwy ddilyn ei gyfrif Twitter @medrobs