Tai fforddiadwy newydd i Bowys
- Cyhoeddwyd

Bydd 29 o dai fforddiadwy ychwanegol yn cael eu hadeiladu ym Mhowys eleni wedi i'r cyngor gael grant o £2m gan Lywodraeth Cymru.
Mi fydd cwmni Melin Homes yn cael tua £1.5m er mwyn adeiladu 22 cartref yng Nghrughywel fis Ebrill.
Bydd yr £508,000 sy'n weddill yn mynd i Mid Wales Housing i gwblhau saith tŷ ar hen safle'r Fyddin Diriogaethol yn y Drenewydd.
Dywedodd y cyngor y byddai'r arian yn mynd i'r afael ag angen yr ardal am dai.