Wrecsam 3-0 Caer

Connor Jennings Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Connor Jennings o'r smotyn am yr ail gêm yn olynnol

Wrecsam oedd yn fuddugol yn y gêm dderbi yn erbyn Caer, diolch i dair gôl yn yr ail hanner.

Fe darodd ymosodwr y cochion, Connor Jennings y trawst yn yr hanner cyntaf, ac fe fu'n rhaid i'r gôl-geidwad Rhys Taylor fod ar flaenau'i draed i atal Danny O'Brien rhag rhoi Caer ar y blaen.

Ond Jennings sgoriodd gyntaf, pan rwydodd o'r smotyn wedi trosedd Ryan Astles, a dderbyniodd gerdyn coch.

Cafodd y fuddugoliaeth ei selio gan Kayden Jackson a Robbie Evans.

Mae Wrecsam nawr yn seithfed yn y Gynghrair Genedlaethol, tri phwynt yn brin o'r safleoedd ail-gyfle.