Macur: i 'Dim rheswm' i danseilio ymchwiliad cam-drin

Y Fonesig Ustus Macur a llun o ffolder yr adolygiad

Mae adolygiad Yr Arglwyddes Ustus Macur i'r ymchwiliad i achosion o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi plant yn y gogledd wedi ei gyhoeddi.

Mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, nad oedd y Fonesig "wedi dod o hyd i reswm i danseilio casgliadau Waterhouse o ran natur a graddfa'r cam-drin".

Dywedodd Mr Crabb bod y disgwyddiadau dan sylw yn rhai "tywyll a chywilyddus, sy'n staen ar ein cenedl".

Dywed yr adroddiad nad oedd yna dystiolaeth fod gwleidyddion nag unigolion amlwg o fewn y sefydliad cenedlaethol yn rhan o gam-drin hanesyddol yn y gogledd.

Dair blynedd yn ôl cafodd Yr Arglwyddes Ustus Macur y dasg o edrych unwaith yn rhagor ar ymchwiliad Waterhouse i gamdriniaeth mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

Ychwanegodd Mr Crabb: "Roedd y plant yma yng ngofal y wladwriaeth am eu bod yn fregus, ac fe gawson nhw eu gadael i lawr gan y wladwriaeth.

"Prif gasgliad yr Arglwyddes Ustus Macur yw, ac rwy'n dyfynnu, 'Nid wyf wedi dod o hyd i reswm i danseilio casgliadau Waterhouse o ran natur a graddfa'r cam-drin.'"

Mae adolygiad Macur yn cynnwys nifer o argymhellion. Yn eu plith:

  • Dylai ymchwiliad cyhoeddus fod yn ddi-fai
  • Bod archifo deunydd yn gywir yn hollbwysig
  • Dylai holl adrannau llywodraeth fod â bas data cywir o'r deunydd sydd yn eu meddiant.
Image caption Dechreuodd yr Arglwyddes Ustus Macur gymryd tystiolaeth yn 2013

Cafodd adolygiad Macur ei gomisiynu er mwyn gweld a oedd Ymchwiliad Waterhouse - gafodd ei gyhoeddi yn 2000 - wedi methu ag ystyried honiadau rhai plant.

Roedd yr ymchwiliad hwnnw'n canolbwyntio ar gamdriniaeth plant mewn cartrefi gofal yn y gogledd rhwng 1974 ac 1996.

Dywedodd un dioddefwr camdriniaeth, Stephen Messham, ei fod "wedi ei synnu" gyda chasgliadau'r Arglwyddes Ustus Macur, gan alw'r adolygiad yn "wastraff o arian cyhoeddus."

Wrth ymateb i gasgliadau'r adroddiad, dywedodd Nia Griffith A.S., llefarydd Llafur ar Gymru: "Rwy'n croesawu cyhoeddi Adolygiad Macur ac rwyf heddiw'n meddwl am y rhai sydd wedi goroesi'r gamdriniaeth erchyll sydd wedi digwydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU nawr yn ymateb i adroddiad Yr Arglwyddes Ustus Macur a sicrhau fod lleisiau dioddefwyr camdriniaeth yn cael eu clywed a gwrnado arnyn nhw, a bod y rhai sydd yn adrodd camdriniaeth yn cael eu hamddiffyn yn briodol, a bod unrhyw un sy'n gyfrifol am achosi trais yn erbyn plant yn wynebu cyfiawnder."

Dywedodd AS Plaid Cymru Meirionnydd Dwyfor, Liz Saville Roberts, y byddai dioddefwyr yn siomedig fod "tystiolaeth wedi ei golli" a bod enwau rhai pobl heb gael eu datgelu yn gyhoeddus.

Roedd hi am i'r adolygiad gael ei gyhoeddi yn llawn, heb yr hawl i gelu unrhyw enwau.

Dywedodd ei bod yn anodd credu bod bas data cyfrifiadur wedi ei ddinistrio, gan felly golli tystiolaeth.

"Fe fydd hyn yn tanseilio hyder dioddefwyr yn yr Adolygiad, a gafodd ei sefydlu fel ymateb i bryderon am y cyfyngiadau a roddwyd ar ymchwiliad Waterhouse."