Pwerdy Didcot: 'Protest' teuluoedd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunProtest heddychlon y teuluoedd ddydd Sul

Mae teuluoedd tri gweithiwr sydd ar goll, yn cynnwys dyn o Abertawe, wedi i bwerdy Didcot ddymchwel wedi cynnal "protest heddychlon" ar y safle brynhawn dydd Sul.

Mae dau o'r tri theulu wedi beirniadu'r ymdrech i ddod o hyd i'r dynion gan ddweud fod y gwaith yn rhy araf.

Bu farw un person ac anafwyd pum person arall wedi i hanner y pwerdy ddymchwel ar 23 Chwefror.

Dywed yr heddlu a'r Gweithgor Diogelwch bod dod o hyd i'r dynion sydd ar goll yn "flaenoriaeth".

Mae Christopher Huxtable, 34 oed, o Abertawe, Ken Cresswell, 57 oed, a John Shaw, 61 oed, ill dau o Rotherham, yn dal ar goll o dan weddillion y pwerdy.

Fe wnaeth hi drefnu deiseb arlein i geisio dod o hyd i'r dynion, ac mae 15,000 o bobl wedi ei lofnodi hyd yn hyn.

ffynhonnell y llun, Jade Ali
disgrifiad o’r llunJade Ali gyda'i phartner Christopher Huxtable o Abertawe
disgrifiad o’r llunGweddillion rhan o'r pwerdy wedi iddo ddymchwel ar 23 Chwefror