Glasgow Warriors 27-20 Gleision Caerdydd

rygbi

Y pencampwyr presennol yn llwyddo i symud i'r seithfed safle yn y Pro12, wedi buddugoliaeth gyfforddus gartref yn erbyn y Gleision.

Fe sicrhaodd ceisiadau gan Gordon Reid, Tim Swinson a Simone Favaro ddechrau cadarn i'r Warriors, gan wneud y dasg yn dipyn anoddach i'r Gleision,

Wedi dweud hynny, yn dilyn cyfres o gamgymeriadau a chwarae blêr gan y tîm cartref, fe groesodd Dan Fish, Ellis Jenkins a Macauley Cook dros yr ymwelwyr.

Er colli'r gêm, fe sicrhaodd y ceisiadau hwyr gan yr ymwelwyr y pwynt bonws i'r Gleision, a hynny felly yn amddifadu'r Warriors rhag ennill y pwynt bonws eu hunain.