Llofruddiaeth Trelái: Cyhuddo dyn

trelai
Image caption Fe gafodd Mr Simms ei ddarganfod ar Heol Glyndŵr

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 58 oed o lofruddio Clint Simms yn ardal Trelái o Gaerdydd ddydd Iau.

Mae Stephen John Pike, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac o ddau gyhuddiad o feddu cyllell mewn man cyhoeddus.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi ei gadw yn y ddalfa ac y bydd yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Bu farw Clint Simms ar ôl iddo gael ei drywanu yn ystod y digwyddiad ar Heol Glyndŵr, Trelái, am tua 11:30 ddydd Iau.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac fe geisiodd parafeddygon i adfywio'r dyn 39 oed.

Cafodd dyn 37 oed, hefyd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond fe gafodd ei ryddhau heb gyhuddiad yn ddiweddarach.