Gwrthdrawiad: Dau heddwas yn yr ysbyty

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Mae dau heddwas wedi eu cludo i'r ysbyty wedi i'w car fod mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy.

Roedd cerbyd yr heddwas llawn amser a heddwas cynorthwyol mewn gwrthdrawiad gyda char arall ym mhentref Gwndy tua 15:10 ddydd Iau.

Cafodd dwy injan dân a dau ambiwlans eu galw i'r digwyddiad ac fe gafodd y ffordd ei chau gan yr heddlu ar y pryd.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedd neb wedi dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad a'u bod yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.

Cafodd y car heddlu ei ddifrodi'n sylweddol wedi iddo fynd drwy ffens ar ôl taro yn erbyn cerbyd arall.