Blog Charlo: 'Tîm cyffredin yw Lloegr'
Gareth Charles
Gohebydd Rygbi BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Dyna ni te, ma' pawb eisoes yn estyn am eu copi o gân Kelly Jones, 'As long as we beat the English...'!
Ond tro 'ma, efallai bod 'na wirionedd yn y geiriau achos dim ond curo'r Saeson sydd ishe - sdim ots o faint, sdim hyd yn oed ots shwt! A dyna ddiwedd ar y dadlau am y tro am y fath o gêm mae Cymru'n chwarae ar y funud.
Dim ond curo Ffrainc wnaethon ni mewn gêm arall heb ormod o safon yn ein gêm ddiwetha'.
Doedd Cymru ddim mewn unrhyw beryg o golli ar unrhyw adeg - nhw oedd y tîm gorau o bell ac fe ddylen nhw fod wedi gwneud y gêm yn saff cyn yr egwyl, ond unwaith eto doedd gan Gymru ddim digon o amrywiaeth i dorri llinell amddiffynnol niferus a threfnus.
Roedd elfen anferth o lwc i unig gais George North ond mae angen hynny weithiau, ac unwaith eto y gallu i amddiffyn am gyfnodau maith heb ildio oedd sylfaen buddugoliaeth Cymru.
Roedd hi'n braf gweld Alex Cuthbert yn chware'i ran yn yr elfen honno i ail-adeiladu'i hyder achos prin, os nad dim, oedd y cyfle gafodd e'n ymosodol.
Oriog oedd y sgrym - ambell un yn wych, ambell un yn gwegian a heb os bydd Lloegr yn targedu'r elfen hon. Ond pa mor gyfreithlon yw sgrym Lloegr? Mae popeth yn dibynnu ar ddehongliad y dyfarnwr.
Cymru reolodd yr awyr gyda Dan Biggar a Liam Williams yn wych ond bydd rhaid bod tri ôl Cymru'n wyliadwrus achos mae dilyn y gic uchel ac ennill meddiant neu giciau cosb yn rhan annatod o gêm Lloegr.
Rhan fawr arall o'u gêm yw gyrru drwy'r sgarmesu, ac mae hyn yn bryder o ystyried nad yw'r bêl mae Gareth Davies wedi cael yn aml o'r safon na'r cyflymder mae angen i'w defnyddio i greu cyfleon.
Un peth sydd wedi bod yn amlwg yn y bencampwriaeth yw bod Cymru yn dîm, yn uned, yn garfan sefydlog sy'n hen gyfarwydd â'i gilydd ac yn hen gyfarwydd â'r patrwm a'r ymroddiad disgwyliedig.
Mae pawb yn ymwybodol o rôl pob unigolyn ac yn hyderus bod pawb yn gallu chwarae'i rhan o fewn y patrwm cyflawn. Y cwestiwn mawr yw a yw'r weledigaeth ehangach a'r athroniaeth yn ddigon i guro'r goreuon?
'Tîm cyffredin yw Lloegr'
Yw Lloegr ymhlith y goreuon? Na - tîm cyffredin yw Lloegr sy'n dal i ddatblygu dan ofal Eddie Jones, ac efallai bod y ffaith bod tîm mor gyffredin o fewn cyrraedd y Gamp Lawn yn dweud cyfrolau am safon y gystadleuaeth drwyddi draw eleni.
Ond mae Billy Vunipola yn arf a Jonathan Joseph, Mike Brown a Jack Nowell yn beryg ond mae lot o waith gan Eddie Jones i wneud cyn ei fod e'n agos at y cynnyrch cyflawn mae'n anelu ato. Mae Lloegr yn bwerus ac yn drefnus ac yn tyfu gyda phob gêm.
Bydd awyrgylch Twickenham yn heriol ac atgof Cwpan y Byd mor fyw ym meddyliau sawl chwaraewr na fydd ishe geiriau Eddie Jones na Warren Gatland i danio'r emosiynau.
Nawr 'te, pawb da'i gilydd: "As long as we......"
Am fwy o straeon ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.