Connacht 30 - 22 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Daeth rhediad diguro'r Gweilch yn y Pro 12 i ben yn Galway nos Sadwrn, wrth golli'n erbyn Connacht.
Dechreuodd y tîm cartre'n gryf gyda Bundee Aki ac AJ MacGinty yn sgorio ceisiau cynnar, cyn i Ben John a Dan Baker groesi i'r Gweilch cyn yr egwyl.
Cyfartal oedd hi o ran ceisiau yn yr ail hanner hefyd, gyda Matt Healy'n sgorio trydedd i Connacht a Rhys Webb yn tirio i'r Gweilch.
Ond gydag un trosiad a dwy gic gosb yn ychwanegol, fe sicrhaodd Connacht ei phumed buddudoliaeth o'r bron gan adael y Gweilch yn waglaw.
Mae'r Gweilch yn seithfed yn y tabl, gyda thipyn o her yn eu hwynebu os am gyrraedd y gemau ailgyfle.