Gwobr Brit i Catfish and the Bottlemen o Landudno

Catfish and the bottlemen

Mae band roc o ogledd Cymru wedi ennill y wobr am y Best British Breakthrough Act yng Ngwobrau'r Brits nos Fercher.

Daeth Catfish and the Bottlemen i'r brig yn erbyn nifer o artistiaid adnabyddus eraill gan gynnwys James Bay, Jess Glynne, Wolf Alice a Years and Years.

Mae'r band o bedwar, wnaeth ffurfio yn Llandudno, wedi rhyddhau un albwm hyd yma sydd eisoes wedi cyrraedd y 10 uchaf yn y siartiau Prydeinig.

Gwrandawyr BBC Radio 1 oedd yn pleidleisio ar gyfer enillydd y wobr.

Wrth dderbyn y wobr, fe ddiolchodd y band o lwyfan yr O2 Arena yn Llundain i "bawb a bleidleisiodd, 'da chi'n wych, a 'da ni'n ddiolchgar iawn".