Corff wedi'i ddarganfod yn yr Afon Wysg yn Sir Fynwy

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Geograph

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn yr Afon Wysg yn Sir Fynwy.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y dyn wedi ei dynnu o'r dŵr am 10:00 fore Llun; lle cafodd ei gyhoeddi'n farw.

Roedd criwiau tân o'r Fenni a Blaenafon hefyd yn rhan o ymgyrch chwilio yn dilyn adroddiadau o ddyn yn mynd i'r dŵr.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn gweithio i ddarganfod amgylchiadau'r farwolaeth.