Seiclo: Llwyddiant i Geraint Thomas yn Algarve
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd y seiclwr Geraint Thomas i amddiffyn ei deitl yn ras y Volta ao Algarve ym Mhortiwgal ddydd Sul, ar ôl dod yn bumed yn y cymal olaf.
Alberto Contador oedd enillydd y cymal hwnnw, a hynny mewn pedair awr, 24 munud a 47 eiliad.
Fe wnaeth Thomas, o Team Sky, gwblhau'r cymal 28 eiliad yn arafach na Contador, ac fe fethodd Tony Martin, oedd ar y blaen am gyfnod, a brwydro i ennill lle ar bodiwm y seiclwyr buddugol.
Ion Izagirre ddaeth yn ail yn y ras, a hynny 19 eiliad ar ôl Geraint Thomas, gyda Contador yn y trydydd safle.
Canlyniad terfynol
- 1af: Geraint Thomas (Cymru) Sky, 18:34:15
- 2il: Ion Izagirre (Sbaen) Movistar +19
- 3ydd: Alberto Contador (Sbaen) Tinkoff +26
- 4ydd: Thibaut Pinot (Ffrainc) FDJ +32
- 5ed: Primoz Roglic (Slofenia) Lotto NL-Jumbo +49