Canolfan chwaraeon i ailagor wedi difrod i'r to

Canolfan Chwaraeon Glyn Ebwy Image copyright Jaggery/Geograph

Bydd canolfan chwaraeon fu'n rhaid cau ar ôl i law trwm achosi i'r to ddisgyn yn ailagor ddydd Llun.

Fe wnaeth yr adeilad yng Nglyn Ebwy gau ar 6 Chwefror wedi i lifogydd effeithio ar hanner yr adeilad.

Bydd yn ailagor yn rhannol ddydd Llun, gyda mwy o wasanaethau i ailddechrau yn y dyfodol agos.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, Anthony Hughes ei fod yn hapus bod "gwaith sylweddol" wedi'i wneud i drwsio'r ganolfan.

Straeon perthnasol