Lluniau: Gwobrau'r Selar 2016
- Cyhoeddwyd

Cafodd noson wobrwyo flynyddol cylchgrawn Y Selar ei chynnal yn Aberystwyth nos Sadwrn 20 Chwefror. Trwy garedigrwydd Y Selar dyma i chi rai o'r uchfafbwyntiau mewn lluniau:
David R Edwards lleisydd Datblygu - enillwyr cyntaf gwobr 'Cyfraniad Arbennig' Gwobrau'r Selar
Aled Rheon, un o artistiaid prosiect Gorwelion, fu'n perfformio ar y noson
Huw Stephens yn gwenu o glust gan ei fod o'n rhannu'r wobr am y Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau gyda Lisa Gwilym
Rogue Jones ar y llwyfan
Terfysg, un o glwstwr o fandiau addawol o Ynys Môn
Cpt Smith, y band pync o sir Gâr
Sŵnami o Ddolgellau, enillwyr mawr y noson. Roedd 'na bedair gwobr iddyn nhw gan gynnwys y Band Gorau a'r Gân Orau
Yr Artist Unigol Gorau, Yws Gwynedd. Enillodd wobr y Fideo Gorau hefyd am 'Sebona Fi'
HMS Morris, un arall o artistiaid Gorwelion fu'n perfformio yn Undeb y Myfyrwyr
HMS Morris, un arall o artistaid Gorwelion fu'n perfformio yn Undeb y Myfyrwyr
Calfari o Ynys Môn enillodd y wobr am y record fer orau 'Nôl ac Ymlaen'
Roedd y gwynt efo Band Pres Llareggub yn y categori Band Newydd Gorau
Noson i'w chofio i'r dorf yn Aberystwyth. Welwn ni chi eto yn 2017!
Uchafbwyntiau ar raglen Lisa Gwilym, C2 BBC Radio Cymru, nos Fercher, 24 Chwefror, 19:00.