Llafur yn 'newid bywydau' mewn grym, nid fel gwrthblaid
- Cyhoeddwyd

Mewn grym mae Llafur yn gwneud gwahaniaeth, nid fel "gwrthblaid egwyddorol", yn ôl llefarydd y blaid ar Gymru.
Dywedodd Nia Griffith wrth gynhadledd Llafur Cymru ddydd Sul mai ei phlaid hi sy'n cynnig "buddsoddiad yng Nghymru yn erbyn toriadau o San Steffan" gan y Torïaid.
Bu hefyd yn annog pobl i "ddychmygu'r pris" pe bai llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd.
"Mae Llafur yn newid bywydau pobl pan rydym mewn llywodraeth," meddai.
'Echrydus'
Mewn ymosodiad di-flewyn-ar-dafod ar y Ceidwadwyr, fe wnaeth hi gyhuddo'r blaid o drin Cymru yn "echrydus", gan ychwanegu:
"Mae angen i ni ddweud wrth deuluoedd ar hyd a lled y wlad beth yn union mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gyflawni.
"Buddsoddiad yng Nghymru yn erbyn toriadau o San Steffan - swyddi i'n pobl ifanc, gan beidio gadael cenhedlaeth ar ôl.
"Dyna'r gwahaniaeth mae Llywodraeth Lafur yn wneud. Polisïau Llafur wedi eu gweithredu oherwydd ein bod mewn llywodraeth.
"Felly peidiwch â gwrando ar y rheiny sy'n dweud y dylem fod yn hapus yn gweiddi ar yr ochrau, bod gwrthblaid egwyddorol yn well na phŵer gwleidyddol.
"Os ydym yn cymryd yr agwedd hon, waeth i ni roi'r ffidil yn y to."