David Cameron yn cyhoeddi dyddiad refferendwm yr UE
- Cyhoeddwyd

Bydd pobl y Deyrnas Unedig yn cael y cyfle i bleidleisio dros adael neu aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar ddydd Iau, 23 Mehefin.
Daeth y cyhoeddiad gan David Cameron yn dilyn cyfarfod o'r cabinet yn Downing Street.
Mae'r prif weinidog o blaid aros o fewn Undeb Ewropeaidd "diwygiedig".
Ychwanegodd bod y cytundeb rhwng arweinwyr yr UE yn rhoi "statws arbennig" i'r Deyrnas Unedig o fewn yr undeb.
Ond mae'r rheiny sy'n dymuno gadael yr undeb yn feirniadol o'r ddêl, gan ddadlau na fydd yn lleihau mewnfudo.
Mae gan weinidogion y llywodraeth y rhyddid i ymgyrchu naill ffordd neu'r llall.
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi canmol y ddêl gan ddweud bod Mr Cameron "wedi gwneud yn dda, mae wedi gwneud yn iawn".
Ond gwadodd Stephen Crabb y byddai'r mater yn achosi rhwygiadau mewnol o fewn y Ceidwadwyr.
"Mae gan aelodau o'r Cabinet y rhyddid i gymryd safle ar hyn ac i ymgyrchu, ond wneith hynny ddim niwed i undod y blaid na'r llywodraeth wrth fwrw ymlaen," ychwanegodd.
Dywedodd arweinydd UKIP Cymru, Nathan Gill, sy'n dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd, bod "diffyg lleisiau" o blaid gwneud hynny yng Nghymru.
"Fe allen ni ddangos i bobl Cymru sut mae aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn lladd diwydiant, arafu'r economi gan dagu ffermio a'r diwydiant pysgota a sut, drwy adael, gall penderfyniadau gael eu gwneud yn agosach i bobl Cymru gan y gall llawer o'r pwerau hynny ddod i'r Senedd."