Menyw ar goll: Apêl ei merch

lorraine ridout Image copyright Heddlu de cymru

Mae merch i fenyw o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll ers diwedd mis Ionawr wedi gofyn i'w mam ddod adre.

Fe welwyd Lorraine Ridout, 57 oed, yn gadael ei chartref yn ardal Gabalfa ar 31 Ionawr.

Mewn cynhadledd newydd ddydd Mercher, dywedodd yr heddlu ei bod yn bosib y byddan nhw'n dechrau chwilio amdani yn Afon Taf.

Image caption Merch Lorraine Ridout yn siarad mewn cynhadledd newyddion