Undeb Ewropeaidd: Cameron yn paratoi i drafod

david cameron

"Pwy sy'n disgwyl methu ar ddechrau trafodaeth? Mae yna siawns uchel o lwyddo."

Dyna ddywedodd David Cameron am y broses o ail-drafod perthynas y DU a'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Ionawr, 2013 - y diwrnod iddo gyhoeddi am y tro cyntaf ei fwriad i gynnal refferendwm ar ein haelodaeth o'r Undeb.

Ychydig dros dair blynedd yn ddiweddarach, mae'r prif weinidog yn gobeithio gallu dod a'r trafodaethau hynny i ben dros y dyddiau nesaf.

Ond dyw hynny ddim yn anochel. "Mae yna filltir ychwanegol sydd angen i ni gerdded os ydyn ni am gyrraedd cytundeb," meddai Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn gynharach yn yr wythnos.

Yn wir, bydd angen cytundeb bob un o'r 27 gwlad arall sydd yn rhan o'r UE ac mae gan sawl ohonynt bryderon gwahanol.

Asgwrn y gynnen

Y cynnig i gyfyngu ar allu gweithwyr o'r Undeb i hawlio budd-daliadau sydd yn poeni gwledydd dwyreiniol Ewrop (Gwlad Pwyl, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari a Slofacia).

A ddylai'r cyfyngiadau effeithio pawb o'r Undeb sydd wedi symud i Brydain neu ond rheiny sydd yn dod yma ar ôl dyddiad penodol? Pa mor hir y dylid gweithredu'r cyfyngiadau? Bydd angen ateb i'r cwestiynau yma a sawl un arall dros y dyddiau nesaf.

Yna, mae Ffrainc yn poeni am y sicrwydd cyfreithiol y mae'r prif weinidog am weld na fydd gwledydd sydd ddim yn defnyddio'r Ewro yn cael cam wrth i wledydd parth yr Ewro integreiddio ymhellach.

Ni ellir atal gwledydd yr Ewro-dir rhag integreiddio, meddai Canghellor yr Almaen Angela Merkel ddydd Mercher, er i wleidydd mwyaf pwerus yr Undeb ychwanegu fod yna gyfiawnhad i lawer o ddymuniadau Prydain.

Mae diplomyddion Ewrop yn hyderus y bydd yna gytundeb erbyn dydd Gwener achos, yn y bôn, mae'r gwledydd eraill eisiau i'r Deyrnas Unedig aros yn rhan o'r Undeb a hefyd yn awyddus i drafod materion eraill sydd yn bwysicach iddyn nhw, fel argyfwng y ffoaduriaid.

Trafodaethau anodd

Er hynny, i brif weinidog sydd eisoes wedi dweud ei fod e am i Brydain aros yn rhan o'r Undeb, fe fydd y trafodaethau yma'n rhai anodd.

Ar yr un llaw, mae e am daro bargen dros y dyddiau nesaf er mwyn gallu dweud fod yr Undeb wedi gwrando ac ymateb i bryderon y Deyrnas Unedig, ond ar y llaw arall dyw e ddim am gyfaddawdu'n ormodol ar y newidiadau.

Does dim dwywaith na fydd y rheiny sydd yn ymgyrchu dros adael yr Undeb o'r farn hynny beth bynnag yw cynnwys y pecyn o newidiadau - maen nhw eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith bod y pecyn ddrafft sydd yn sail i'r trafodaethau yma yn dra gwahanol i gynllun gwreiddiol Downing Street ychydig flynyddoedd yn ôl.

Yn yr un modd, mae yna garfan sylweddol sydd eisoes o'r farn mai aros ym Mrwsel fyddai orau i Brydain.

Ond beth am y pleidleiswyr yna sydd yn gorwedd yn y canol, sydd heb benderfynu naill ffordd neu'r llall?

"Dydw i ddim yn gweld e'n newid barn pobol i fod yn onest," meddai AS Ynys Môn Albert Owen.

Yn wir, mae'r aelod Llafur, sydd yn ymgyrchu dros Brydain yn aros yn rhan o'r Undeb, yn poeni am ganlyniad y refferendwm.

"Dwi'n poeni y galle mewnfudo ddylanwadu (ar yr ymgyrch) yn fwy na'r economi, a'r ffaith na fydd pobol yn troi allan i bleidleisio.

'Amherthnasol'

Mae un arall sydd yn byw ar yr ynys yn cytuno na fydd y pecyn yn gwneud fawr o wahaniaeth i'r bleidlais.

Yn ôl Nathan Gill, Arweinydd UKIP Cymru, dyw e erioed wedi cwrdd ag unrhyw un o Gymru sydd wedi dweud y bydd y newidiadau i'r system budd-daliadau yn dylanwadu ar eu pleidlais.

"'Smoke and mirrors' yw hyn oll," meddai'r Aelod o'r Senedd Ewropeaidd.

"Mae trafodaethau Cameron yn amherthnasol - na fydd unrhyw bwerau yn dychwelyd i Brydain a byddwn yn dal i wario £55 miliwn bob dydd am ein haelodaeth."

Heb os, er bod trafodaethau'r prif weinidog yn parhau a dyddiad y refferendwm heb ei gyhoeddi eto, mae'r ymgyrchu wedi hen ddechrau.