Cyflenwad dŵr wedi ei adfer

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Dwr Cymru
disgrifiad o’r llunMae peirianwyr wedi cwblhau'r gwaith atgyweirio

Mae peirianwyr wedi atgyweirio pibell ddŵr sy'n cyflenwi dŵr i nifer o gymunedau yn nwyrain Sir Gaerfyrddin.

Dywed Dŵr Cymru eu bod yn credu fod y bibell, sy'n cyflenwi Trap, Llandybie, Cross Hands, Tymbl, Gorslas, Penygroes a Charmel, wedi torri o ganlyniad i symudiad yn y tir gafodd ei achosi gan y tywydd gwlyb.

Bu peirianwyr wrthi ers nos Fawrth yn gwneud gwaith atgyweirio, yn y cyfamser bu tanceri yn cludo dŵr er mwyn sicrhau bod cyflenwadau ar gael.

Roedd dŵr potel yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl ag anghenion arbennig a theuluoedd gyda babanod.

"Mae cyflenwadau yn cael eu hadfer ond fe allai'r dŵr fod o liw gwahanol am gyfnod," meddai llefarydd ar ran Dŵr Cymru.

"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn diolch i gwsmeriaid am fod yn amyneddgar tra bod ni'n cwblhau'r gwaith atgyweirio. "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol