Synhwyro tonnau disgyrchol am y tro cyntaf erioed

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Steffan Messenger sy'n esbonio pam bod y darganfyddiad mor bwysig

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi chwarae ran allweddol yn "un o'r darganfyddiadau mwyaf arwyddocaol ym myd ffiseg ers canrif".

Wrth i arbrawf yn yr Unol Daleithiau brofi un o ddamcaniaethau enwoca' Albert Einstein, gall BBC Cymru ddatgelu mai modelau cyfrifiadurol gafodd eu datblygu yng Nghaerdydd wnaeth gadarnhau eu llwyddiant.

Mae cynadleddau i'r wasg wedi eu cynnal yn Washington, Llundain a Chaerdydd brynhawn ddydd Iau wrth i'r cadarnhad ddod fod tonnau disgyrchol wedi'u synhwyro am y tro cynta'.

Mae medru mesur y crychdonnau bychain sy'n deillio o ddigwyddiadau grymus yn y gofod yn golygu fod gan wyddonwyr ffordd newydd o weld a deall ffenomena'r bydysawd.

Gwella'r offer

Image caption Mae'r tonnau yn rhoi golwg newydd ar y bydysawd sy'n amhosib eu gweld fel arall

Yn yr Unol Daleithiau mae'r arbrawf LIGO (Laser Interferometer Gravitational Wave Observatory) wedi bod yn chwilio am dystiolaeth o'u bodlaeth ers 1992.

Fe'u disgrifiwyd gynta' gan Einstein yn ei ddamcaniaeth enwog 'Theori Perthnasedd Cyffredinol' ond roedd e'n amau na fydde gan ddynol ryw erioed y fath offer sensitif i'w synhwyro a'u mesur.

Mae dros 900 o wyddonwyr ar draws y byd wedi bod ynghlwm a'r arbrawf, sydd wedi'i ganoli ar ddau arsyllfa yn Washington a Louisiana.

Image copyright Caltech/MIT/LIGO Lab
Image caption Mae gwyddonwyr o Gymru wedi bod yn cydweithio gyda gwyddonwyr o Louisiana

Cafodd y synwyryddion sy'n chwilio am signalau o'r gofod eu gwella yn 2015 ac o'r foment honno fe ddechreuodd y gwyddonwyr glywed signal yr oedden nhw'n ei amau o fod yn don disgyrchol.

Defnyddiwyd llu o gyfrifiaduron pwerus yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd i brosesu'r holl ddata.

Roedd ymchwilwyr yn y Brifysgol wedi cynhyrchu modelau cyfrifiadurol o'r hyn fydde rhywun yn disgwyl ei weld pan fo tyllau du yn taro'i gilydd a defnyddiwyd rheini i brofi dilysrwydd signalau LIGO.

Y gred yw fod tonnau disgyrchol yn cael eu tanio o ddigwyddiadu pwerus yn y bydysawd - gan gynnwys marwolaethau sêr enfawr, a thyllau du'n uno.

Yn ôl gwyddonwyr, mae medru eu synhwyro yn uniongyrchol yn agor ffenest newydd ar y gofod.

'Moment fawr i Gymru'

Image caption Dr Patrick Sutton

Wrth siarad a BBC Cymru cyn y cyhoeddiad fe soniodd y tîm yng Nghaerdydd am eu cyffro.

Dr Patrick Sutton yw pennaeth y Grwp Ffiseg Disgyrchol, a dywedodd bod y tîm wedi bod ynghlwm a'r arbrawf yn America o'r cychwyn.

"Ein arbenigedd ni yma yw modelu'r signalau fyddai'n deillio o dyllau du mawr yn uno ac yna chwilio drwy'r holl ddata oedd yn dod o'r synwyryddion i geisio adnabod y signalau gwan iawn rheini oedd wedi cuddio yn y data."

"Dwi'n credu fod hwn yn foment fawr i Gymru ac i Gaerdydd. Gallwn ni fod yn falch iawn ein bod ni wedi cyfrannu at agor pennod newydd yn hanes seryddiaeth a dangos fod dirgelwch fawr ola' Einstein wedi'i brofi."

Image caption Mae'r darganfyddiad yn golygu y gall gwyddonwyr weld llawer mwy na'r hyn mae telesgop yn gallu dangos

Dywedodd Dr Stephen Fairhurst ei fod yn un o'r darganfyddiadau mwyaf erioed yn hanes ffiseg.

"Ry'n ni wedi gwbod ers misoedd fod hwn yn dod ac wedi gorfod cadw'r gyfrinach. Mae'n foment ffantastig ac mae na gyfle da y bydd yr arbrawf yma'n ennill gwobr Nobel."

Mae gwaith y tîm hefyd yn golygu fod tyllau du deuol wedi'u synhwyro am y tro cynta' erioed.

'Profiad anhygoel'

Fe ddaeth y tonnau disgyrchol sydd wedi'u canfod gan LIGO o ddau dwll du wnaeth uno gyda ffrwydriad enfawr dros biliwn o flynyddoedd yn ôl.

Dyma'r digwyddiad mwyaf grymus i ddynol ryw lwyddo ei synhwyro hyd yma yn y bydysawd.

Yr Athro Mark Hannam oedd yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu'r modelau cyfrifiadurol wnaeth ragweld ymddygiad y tonnau.

"Roedd gweld y signal roedden ni wedi bod yn ei ddisgwyl yn y data yn brofiad anhygoel."

"Mae braidd fel dysgu iaith arall - ry'ch chi'n ymarfer ac ymarfer ac yna'n mynd dramor ac yn gallu cyfathrebu a phobl - mae'n wych!"