Cymru i wynebu Sweden mewn gêm gyfeillgar cyn Euro 2016

Tîm Pêl-droed Cymru
Image caption Fe fydd Cymru yn teithio i Sweden cyn pencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n teithio i Sweden ar gyfer gêm baratoi cyn i'r ddau dîm gystadlu yn rowndiau terfynol Euro 2016, yn Ffrainc.

Fe fydd y gêm gyfeillgar yn cael ei chwarae ar 5 Mehefin, chwe diwrnod cyn gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn stadiwm cenedlaethol Sweden - Friends Arena, yn Stockholm.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n wynebu Sweden ac yn teithio oddi yno i'w canolfan hyfforddi yn Dinard, Ffrainc.

"Mae Sweden yn dîm sydd â safon a phrofiad ac yn wrthwynebwyr gwych ar ein cyfer," meddai hyfforddwr Cymru Chris Coleman.

Fe fydd Cymru hefyd yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 24 Mawrth ac yn erbyn Iwcraen ar 28 Mawrth.

Mae Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn Euro 2016 yn Bordeaux ar 11 Mehefin yn erbyn Slofacia cyn wynebu Lloegr a Rwsia.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.