Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 16-16 Cymru
- Cyhoeddwyd

Daeth Cymru yn ôl o 13-0 i sicrhau gêm gyfartal mewn gêm gyffrous ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Nulyn.
Aeth y tîm cartref ar y blaen drwy gais Conor Murray ac wyth o bwyntiau o droed Johnny Sexton.
Ond daeth Cymru yn ôl gyda chais gan Taulupe Faleatu, a llwyddodd yr eilydd Rhys Priestland gyda'r trosiad a chic gosb arall i roi'r ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf.
Daeth Iwerddon yn gyfartal funudau'n ddiweddarach gyda chic gosb arall gan Sexton, a doedd Priestland methu a chicio'n gywir gydag ymdrech am gôl adlam fyddai wedi sicrhau'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf.
Gyda'r cloc wedi pasio 80 munud, roedd y ddau dîm yn awyddus i gipio'r fuddugoliaeth yn hytrach na gêm gyfartal.
Ond roedd amddiffyn y ddau yn gryf ac roedd y rhyddhad yn glir ar wynebau'r chwaraewyr pan ddaeth y chwiban olaf.
Roedd Iwerddon heb Sean O'Brien a Rob Kearney i'r gêm, ac roedd Cymru wedi gorfod galw ar Liam Williams i ddechrau yn safle'r cefnwr oherwydd anaf hwyr i Gareth Anscombe.
Ac o fewn 20 munud o chwarae roedd Rhys Priestland ar y cae yn lle Dan Biggar oherwydd anaf i'w droed.
Y tîm cartref oedd gryfaf yn yr hanner-awr cyntaf wrth i Murray groesi'r llinell yn dilyn cyfnod da o feddiant.
Ond daeth Cymru yn ôl cyn yr egwyl drwy gicio Priestland a chais Faletau, wnaeth gipio'r bêl o'r sgrym a churo dau amddiffynnwr i sgorio.
Roedd mwy o gicio cywir gan y maswyr, ond doedd yr un yn gallu sicrhau'r fuddugoliaeth.
Cafodd yr ymwelwyr gyfnod hir o bwysau tua'r diwedd, cyn i Priestland fethu gyda'i gic adlam.
Mae'n golygu nad yw Cymru wedi ennill gemau'n olynol yn Iwerddon ers 2000.