Marwolaeth Tonnau: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Andrea Lewis ei ddarganfod mewn cartref tua 08:00 fore Sadwrn
Mae dyn wedi bod gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes o ardal Castell-nedd.
Fe ymddangosodd Rhys Trevor Anthony Hobbs, 43 oed, yn Llys y Goron Abertawe fore Mercher.
Mae e wedi'i gyhuddo o lofruddio Andrea Lewis, 51 oed.
Fe gafwyd hyd i gorff Ms Lewis mewn cartref yn Nhonnau, Castell-nedd Port Talbot, ddydd Sadwrn 30 Ionawr.
Mae dyn arall 46 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.