Safleoedd teithwyr: 'Niweidio' enw Cyngor Abertawe

Safle Sipsiwn Image copyright Hilary Jenkins
Image caption Roedd y cae yma'n un o'r safleoedd oedd yn cael ei gynnig

Mae chwilio am ail safle parhaol ar gyfer teithwyr yn Abertawe yn debygol o fod wedi niweidio enw'r cyngor, yn ôl adroddiad.

Cafodd awgrymiadau am safle newydd ar dir cyngor naill ai yn Y Cocyd neu Lansamlet eu gollwng yn 2013.

Roedd hyn yn sgil ymgyrchoedd yn erbyn awgrymiadau ar gyfer yr ardaloedd penodol.

Dywedodd un o bwyllgor craffu y cyngor fod yr awdurdod wedi darganfod bod y mater yn "anodd ac emosiynol".

Ychwanegodd yr adroddiad, fydd yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod arbennig yr wythnos nesa: "Mae'r broses wedi denu beirniadaeth cynghorwyr ac aelodau'r cyhoedd.

"Mae'r mater wedi achosi llawer o dyndra ac yn debygol o fod wedi niweidio enw'r awdurdod."