Bil Cymru yn 'annheg', meddai academwyr blaenllaw

Senedd
Image caption Nod Bil Cymru ydi rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad

Mae cynlluniau i ail ysgrifennu'r setliad datganoli wedi ei feirniadu gan academwyr a chyn weision sifil.

Yn ôl adroddiad gan y grŵp, mae'r cynigion yn "annheg" ac fe ddylai Aelodau Cynulliad eu gwrthod yn gyfan gwbl.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei chynlluniau mewn ffurf drafft, a fyddai'n rhoi pwerau newydd i'r Cynulliad dros egni, trafnidiaeth a'i etholiadau.

Ond mae'r bwriad i newid y setliad datganoli wedi bod yn destun trafod.

'Llai o rym'

Y nod ydi sefydlu'r model 'pwerau wedi'u cadw' - rhagdybiaeth fod popeth wedi ei ddatganoli, oni bai am bwerau penodol sydd wedi eu cadw gan San Steffan.

Y gwyn ydi fod y rhestr honno'n rhy hir ac y byddai'n arwain at Lywodraeth Cymru gyda llai o rym.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi dweud y bydd newidiadau i fil drafft Cymru.

Y confensiwn ydi y dylai'r Cynulliad roi sêl bendith i newidiadau i'w bwerau gyda phleidlais ym Mae Caerdydd.

Ond yn ôl yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Coleg Llundain (UCL), ni ddylai Aelodau Cynulliad gefnogi'r mesur, oni bai bod newidiadau.

Image caption Mae Stephen Crabb a Carwyn Jones yn anghytuno dros y cynnig o bwerau newydd i Gymru

'Problem' ers 1999

Dywedodd yr Athro Richard Rawlings o UCL: "Mae Cymru wedi cael tri setliad datganoli sydd wedi bod yn broblem ers 1999.

"Roedd gobaith gwirioneddol y byddai'r cytundeb trawsbleidiol y dylai Cymru gael model o 'bwerau wedi'u cadw' yn ddechrau ar broses newydd a fyddai'n rhoi datganoli ar sylfaen cyfansoddiadol cynaliadwy.

"Dyw'r mesur drafft Cymru ddim yn gwneud beth oedd wedi ei addo.

"Yn fwy aml na pheidio, mae amcanion yr Ysgrifennydd Gwladol o setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach yn dod ar draul cynnig sy'n gyfyngedig, annheg ac, yn gyfansoddiadol, yn ddiddychymyg."

Mae Aelodau Seneddol y Pwyllgor Materion Cymreig yn edrych ar y cynigion, gyda'r disgwyl i'w adroddiad trawsbleidiol gael ei gyhoeddi'n fuan.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Rydym eisiau i Fil Cymru i greu Cymru gryfach o fewn Deyrnas Unedig gryfach ac fe gyhoeddom ni fil drafft fel ein bod yn gallu gwrando ar y sylwadau i wneud yn siŵr ein bod yn cael hyn yn gywir.

"Yn amlwg, cyn cyhoeddi'r bil yn llawn, mae'n rhaid i ni ddisgwyl i'r Pwyllgor Materion Cymreig i gyhoeddi ei adroddiad gan ystyried ei argymhellion."