Creu cwricwlwm newydd 'uchelgeisiol a mentrus'

Ysgol

Mae pennaeth "ysgol arloesol" sy'n datblygu'r cwricwlwm newydd ar gyfer disgyblion Cymru wedi dweud mai'r nod yw creu disgyblion "uchelgeisiol, mentrus, creadigol, moesol ac iach".

Yn ôl pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Owain ap Dafydd, bwriad y cwricwlwm newydd yw tywys plant ar daith barhaus o'r cyfnod maen nhw'n dechrau dysgu yn dair oed, tan ddiwedd eu TGAU yn 16.

Bydd y cwricwlwm wedi ei selio ar ardaloedd craidd fel gwyddoniaeth a thechnoleg, ieithoedd, mathemateg, iechyd a'r celfyddydau. Bydd llythrennedd, rhifeg a dysgu digidol hefyd yn allweddol.

Ychwanegodd y pennaeth y gallai'r gwaith o ail-drefnu'r cwricwlwm arwain at safonau uwch yng Nghymru na yn llawer o wledydd eraill y byd.

Cyfnod 'cyffrous'

Roedd Owain ap Dafydd yn un o'r cynghorwyr ar gyfer ymchwiliad Donaldson - ymchwiliad wnaeth arwain at ddatblygu'r cwricwlwm newydd.

Er bod yr ysgol dal yng nghamau cynnar y broses, mae Mr ap Dafydd yn dweud bod hyn yn "gyffrous ac yn bwysig iawn i Gymru".

Image caption Owain ap Dafydd

Y bwriad yw y bydd y cwricilwm yn cael ei ddysgu erbyn 2021, a dywedodd Mr ap Dafydd y byddai rôl yr athro neu athrawes yn hollbwysig:

"Y newid mwyaf yw nad hwn yw'r cwricwlwm cenedlaethol sydd gyda ni nawr, lle mae 'na duedd i ddweud wel mae'n rhaid i ni wneud hyn, ticio y bocs yma a symud ymlaen.

"Fydd hwn ddim yn gwricwlwm ticio bocs.

"Mi fydd yn gwricwlwm lle y bydd gan bob plentyn gyfle i ddatblygu ac mi fyddwn i yn asesu bob plentyn wedyn i weld beth mae nhw angen i ddatblygu ymhellach."

Er ei fod yn rhy gynnar i ddweud sut y bydd cynnwys y cwricwlwm yn wahanol i'r hyn sydd yn cael ei ddysgu ar hyn o bryd, ychwanegodd ei fod hefyd yn siarad gydag ysgolion sydd ddim wedi eu dynodi i gasglu barn.

Gwella safonau?

Mae yna feirniadaeth wedi bod o berfformiad Cymru ym mhrofion rhyngwladol Pisa. Ond yn ôl Mr ap Dafydd bydd y cwricwlwm newydd yn newid hynny.

"Mae'n rhaid iddo fe wneud - dyna yw'r prif fwriad.

"Ni'n ymwybodol bod yna broblemau yng Nghymru ond ni hefyd yn ymwybodol bod yna safonau uchel iawn yng Nghymru ac mae nifer o bobl yn gwneud eu gorau i gyrraedd y safonau uchel yna.

"Os allwn ni ail drefnu'r cwricwlwm yn y dyfodol, dwi'n meddwl y byddwn ni yn cyrraedd safonau uwch na llawer o wledydd eraill."

Ysgol Gymraeg mewn ardal lle mae'r mwyafrif yn siarad Saesneg yw Cwm Rhymni.

Oherwydd hynny mae Mr ap Dafydd yn dweud bod yna "ddyletswydd i weithio yn galetach, am fod mwyafrif ein rhieni ni ddim yn siarad Cymraeg ac maen nhw yn rhoi eu hyder yno ni trwy anfon eu plant i ysgol lle nad ydyn nhw yn aml yn gwybod beth sy'n digwydd".

"Mae hynny yn rhoi mwy o bwysau arnon ni i gyrraedd safon uwch."

Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres Deall Cymru sy'n edrych ar beth sy'n ein gwneud ni yn wahanol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig.