Tu ôl i'r tîm: Luke Broadley

Mae Cymru Fyw wedi cael cipolwg ar waith rhai o aelodau pwysicaf tîm rygbi Cymru.

Na, nid y chwaraewyr, ond y swyddogion sy'n gweithio'n galed tu ôl i'r llenni i geisio sicrhau llwyddiant i wŷr Warren Gatland ar y cae.

Luke Broadley, rheolwr y wasg Undeb Rygbi Cymru, sy'n trafod diwrnod cyffredin yn ei swydd:

Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency
Image caption Luke yn briffio George... ai Jamie Roberts a Luke Charteris oedd nesa?

Cyhoeddi'r tîm

Mae'r tîm yn cael ei gyhoeddi pedwar diwrnod cyn y gêm (gan amlaf!) ac mae'n un o'r dyddiau prysuraf cyn y gêm.

Mae'r diwrnod yn dechrau drwy gael sgwrs â Warren Gatland a'r tîm hyfforddi er mwyn cadarnhau'r dewisiadau. Byddai'r hyfforddwyr wedi dewis y garfan y noson cynt ond mae yna gyfle iddyn nhw i feddwl am y peth dros nos cyn cadarnhau'r tîm yn derfynol yn y bore.

Rydyn ni, fel tîm rheoli, yn cyfarfod i drafod y prif negeseuon ar gyfer y diwrnod cyn i'r datganiad newyddion gael ei orffen.

Dros frecwast, mae Warren yn ffilmio fideo byr i gyhoeddi'r tîm, ar gyfer WRU TV. Mae hwn yn cael ei gyhoeddi ar y we am 11:00, yr un pryd â'r cyhoeddiad swyddogol.

Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency
Image caption Luke yn goruchwylio cyfweliadau gyda'r asgellwr George North

Unwaith i reolwyr y garfan gymeradwyo'r datganiad, mae'n cael ei rannu gyda'r tîm cyfathrebu er mwyn paratoi popeth ar gyfer y cyhoeddiad yn hwyrach yn y bore.

Mae'r wefan yn cael ei pharatoi, mae'r fideo'n cael ei golygu, a'r lluniau graffeg yn cael eu dylunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol - oll yn barod i fynd yn fyw.

Y gynhadledd newyddion

Am 11:00, mae'r cyhoeddiad yn fyw ar WRU.wales, ar ein cyfrifon Facebook a Twitter, a bydd ein cysylltiadau yn y cyfryngau wedi cael copi o'r datganiad ysgrifenedig. Am yr hanner awr nesaf, rydyn ni'n edrych ar sut mae'r cyfryngau a'r cyhoedd wedi ymateb i'r cyhoeddiad.

Yna mae hi'n amser i gwblhau'r trefniadau ar gyfer y gynhadledd newyddion, a fydd yng ngwesty'r tîm am 13:00.

Ar ddiwrnod cyhoeddi'r tîm, mae hyd at naw chwaraewr a dau hyfforddwr yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol fathau o ymrwymiadau â'r papurau newydd, teledu a radio.

Mae'r chwaraewyr a'r hyfforddwyr yn cael eu briffio ynglŷn â beth fydd gofyn iddyn nhw ei wneud yn ystod eu cyfnod yn siarad â'r cyfryngau.

Warren Gatland a'r capten Sam Warburton sydd yn dechrau pethau. Maen nhw'n siarad ag ystafell sy'n cynnwys dros 30 o newyddiadurwyr, gyda rhan o'r cyfweliad yn fyw a rhan o dan embargo tan y diwrnod canlynol.

Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency
Image caption Warren Gatland a'r capten, Sam Warburton, yn barod i gael eu holi'n dwll gan newyddiadurwyr

Hawl i holi

Wedi hynny, mae pump chwaraewr yn siarad â darlledwyr a'r newyddiadurwyr am yr awr nesaf. Fel rhai sydd â hawliau, mae'r BBC yn siarad â Warren, Sam a chwaraewyr eraill yn breifat er mwyn creu cynnwys ar gyfer eu darllediad ddiwrnod y gêm.

Mae'r slot â'r cyfryngau rhwng 13:00 a 14:00 ble mae rhyw 15 cyfweliad yn cael eu cynnal. Fy rôl i yw i sicrhau fod y chwaraewyr yn cael eu briffio, yn ymwybodol o bynciau a fydd yn cael eu trafod ac yn deall y prif negeseuon rydyn ni am eu rhannu.

Mae hi hefyd yn rhan o'n swydd i i sicrhau fod yr holl gyfryngau amrywiol yn cael tegwch o ran gwybodaeth ac amser i gyfweld.

Ar ôl y cyfweliadau, rydyn ni'n symud pethau i'r cae. Mae deg munud cyntaf y sesiwn hyfforddi yn agored i'r cyfryngau ei ffilmio, felly rydyn ni'n mynd yno er mwyn monitro hyn.

Yna yn ôl i 'stafell y tîm am fwy o fonitro'r wasg ac adolygu'r cyfweliadau byw o'r newyddion amser cinio, gwirio e-byst ac ateb cwestiynau.

Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2015.