Tân Ysgol Coed Efa: Arestio seithfed person

Coed Efa Image copyright Guto Orwig
Image caption Cafodd meithrinfa Ysgol Gynradd Coed Efa ei dinistrio yn y tân

Mae seithfed person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â thân mewn ysgol yn Nhorfaen.

Cafodd y tân ei gynnau yn Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân yn oriau man y bore ar Ddydd Calan.

Mae chwech o bobl eisoes wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Fe wnaeth Heddlu Gwent gadarnhau ddydd Gwener bod person 18 oed o Gwmbrân wedi cael eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth.

Straeon perthnasol