Gwasanaeth i'r gymuned

Beth all capeli yng Nghymru ei wneud i fod yn fwy amlwg yn y gymdeithas y maen nhw yn eu gwasanethu? Dyna oedd un o'r cwestiynau gafodd eu codi gan y Parch Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn erthygl yn ein cyfres Cymru 2016.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy o gapeli ac eglwysi yn agor eu drysau i'r gymuned, ac mewn rhai ardaloedd mae gan adeiladau eglwysig swyddogaeth fwy canolog yn y cymunedau.

Image copyright Evan Morgan
Image caption Y Parchedig Evan Morgan yng Nghapel Salem, Caerdydd

Mae'r Parch Evan Morgan, gweinidog Capel Salem yn ardal Treganna, Caerdydd yn dweud bod agor y drysau i'r gymuned yn "hanfodol".

"Mae 'na ddau beth yn digwydd gyda ni. Mae pobl yn defnyddio'r adeilad sy'n annibynnol, hynny yw mae Cylch Meithrin yn cael ei gynnal yma yn y festri bob dydd. Hefyd mae pedwar côr yn ymarfer yn Salem yn wythnosol a wedyn mae gyda ni bethe mae'r capel ei hunan yn eu rhedeg, fel Clwb Brecwast i rieni a babis ac Aelwyd yr Urdd,"

"Mae'n hanfodol bwysig i agor ein drysau i'r gymuned. I fi, mae'n rhan o'n gweledigaeth ni fel capel. Mae'n fwy na gwasanaethau ar y Sul yn unig. Mae'n rhaid i gapeli gynnig rhywbeth i bobl o bob oedran.

"Un o ganlyniadau hyn yw ein bod ni'n creu cysylltiadau, ac mae pobl yn gweld beth ni'n gallu ei gynnig, a'n bod ni'n cynnig ac yn 'neud rhywbeth."

Cymorth i'r digartref

"Yn ddiweddar rydyn ni wedi ymuno fel rhan o gynllun, lle rydyn ni fel Capel Salem yn gneud bwyd i'r digartref yma ar nos Fawrth. Maen nhw'n cael cysgu yn y festri dros nos a gadael ar ôl brecwast fore trannoeth. Mae'r bobl ddigartref yn gwbod bod na gapel neu eglwys ar agor iddyn nhw bob nos o'r wythnos rhywle yng Nghaerdydd, ac mae Salem yn un ohonyn nhw.

"Dwi'n teimlo bod hyn yn rhywbeth naturiol ddyle capeli wneud.

"Pan ddechreuais i ar drothwy'r mileniwm roedd dros 120 o aelodau yma ac erbyn hyn mae dros 300. Wrth edrych ymlaen, rydyn ni'n bwriadu adeiladu ar y tyfiant sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Ein cam nesa' ni yw datblygiadau technolegol. Mae gyda ni ddwy sgrin fawr newydd yn y capel a wi-fi ar y safle hefyd."

Image copyright Capel Waengoleugoed
Image caption Oedfa yng Nghapel Waengoleugoed

Mae capel Salem bron a bod yng nghanol y brifddinas, ond mae arweinwyr un o gapeli gwledig y gogledd hefyd yn credu ei bod hi'n bwysig iawn i fod yn agored i'r gymuned.

Yn ogystâl â bod yn athro a chyfarwyddwr Adran Astudiaethau Gofal Lliniarol, Prifysgol Lerpwl, mae Yr Athro Mari Lloyd-Williams yn weithgar iawn yng nghapel Waengoleugoed ar gyrion Llanelwy.

"Efallai fod rhai yn credu mai dim ond yn y pum mlynedd diwethaf y mae Capel Waengoleugoed wedi gweithredu yn y gymuned, ond fel mae yr hanesion yn y llyfr diweddar am y Capel yn dangos, mae Capel Waengoleugoed wedi bod yn gapel cymunedol ers erioed, a'r neges o weithredu yn glir iawn ym mhob agwedd o fywyd y Capel," meddai.

"Capel bach iawn, capel y Werin yng nghanol y caeau yw Waengoleugoed gyda ryw ddeg yn dod i oedfa ar y Sul. Bellach rydym yn cynnig Gofal Dydd wythnosol i fobl bregus o gylch eang o Ddyffryn Clwyd, yn yr iaith Gymraeg.

"Dyn ni'n cynnal grŵp misol, eto yn y Gymraeg, i rai gyda chanser a'u teuluoedd, yn dosbarthu hamperi bywyd adeg y Nadolig ac yn gobeithio dathlu ein daucanmlwyddiant trwy ehangu ein gweithgareddau.

"Bwysig i agor ein drysau"

"Ein profiad ydi fod cael capel sydd yn rhan ac yn agored i'r gymuned yn dod â bendithion di-ri i bob un ohonom ac mae ceisio mewn ffordd bach i estyn llaw i'n cyd-ddyn yn fraint. Mae'n rhaid i ni ariannu pob gweithred ac mae hyn yn broses barhaol trwy wahanol weithgareddau i godi arian a haelioni unigolion.

"Mae mor bwysig agor ein drysau, ond rydym yn cyfaddef ei fod wedi bod yn rhwydd i ni gan fod hyn yn batrwm ers blynyddoedd, ond nid yw yn amhosib i unrhyw eglwys."

Image copyright Canolfan Morlan
Image caption Canolfan Morlan

Yn Aberystwyth mae Canolfan Ffydd a Diwylliant Morlan wedi ei sefydlu ers dros ddegawd, ar safle hen gapel Seilo yn y dref.

Ers saith mlynedd mae Carol Jenkins yn gweithio fel rheolwr y ganolfan sydd yn darparu gofod i'r gymuned i rannu gwerthoedd Cristnogol trwy ddiwylliant.

"Mae hi bron yn 11 mlynedd ers i Morlan agor. Roedd aelodau capel Morfa eisiau gwasanaethu'r gymdeithas mewn ffordd wahanol, trwy gynnig lle i drafod, rhannu a gwneud pob math o bethau.

"Capel Morfa sydd berchen yr adeilad a grŵp o flaenoriaid y capel yw pwyllgor rheoli'r ganolfan.

"Flynyddoedd yn ôl, roedd na dri capel sef Tabernacl, Salem a Seilo. Unodd aelodau Salem a Seilo i ffurfio Capel y Morfa yn 1989. Yna yn 2002 ymunodd Capel y Morfa a Thabernacl. Roedd 'na ddau adeilad yn segur felly, sef neuadd capel Seilo a hen dŷ'r gweinidog, ac felly cafodd y ddau adeilad eu huno i greu canolfan Morlan.

"Mae ein rhaglen ddigwyddiadau ni yn cynnig pethau i wneud i bobl feddwl. Mae'n amrywio o arddangosfeydd celf, trafodaethau, dramâu. Rydyn ni'n ystyried heddwch, ffydd, hawliau dynol, digwyddiadau cymdeithasol, dangos ffilm â neges arbennig ac yn y blaen," meddai Carol Jenkins.

"Rydyn ni'n trio edrych i'r dyfodol a datblygu."

Image copyright Canolfan Morlan
Image caption Dawnswyr yn perfformio mewn digwyddiad aml ddiwylliannol yng Nghanolfan y Morlan