'Pwysau ar wddf' laddodd Georgina Symonds yn ne Cymru

Georgia Symonds Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd gan Georgina Symonds, 25, ferch bump oed

Mae cwest wedi clywed mai "pwysau ar ei gwddf" laddodd ddynes 25 oed yn ne Cymru.

Cafodd corff Georgina Symonds ei ddarganfod mewn gweithdy ar Fferm Beech Hill ym Mrynbuga, Sir Fynwy, ar 13 Ionawr.

Mae Peter Morgan, 53 o'r Fenni, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.

Cafodd y gwrandawiad yn Llys Crwner Gwent ei ohirio er mwyn i'r heddlu barhau i ymchwilio.