Tân mewn tŷ: Dyn wedi marw

Diffoddwyr

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mlaenau Ffestiniog.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r adeilad ar Ffordd Bowydd tua 21:30 nos Iau.

Fe gafodd y dyn ei dynnu o'r tân ond bu farw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymchwilio i achosion y digwyddiad.