Hull 2-0 Caerdydd
Owain Llyr
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau ail gyfle yn prysur ddiflannu yn dilyn perfformiad a chanlyniad siomedig oddi cartref yn Hull.
Mae'r Adar Gleision yn parhau saith pwynt tu ôl i Brighton, sy'n chweched safle, a dydyn nhw'n sicr ddim yn mynd i gau'r bwlch yna os y bydden nhw'n parhau i chwarae fel hyn.
Fe aeth Hull ar y blaen yn yr hanner cyntaf, gyda chic o'r smotyn gan Abel Hernandez ar ôl i Harry Maguire gael ei lusgo i'r llawr yn y cwrt cosbi gan Lee Peltier.
Ac fe ddaeth yr ail gôl ar ddechrau'r ail hanner - foli droed chwith wych gan Sam Clucas o 15 llath allan.
Mae cytundeb y rheolwr, Russell Slade yn dod i ben ar ddiwedd y tymor - ac fe ddywedodd ar ôl y gêm nad ydi o wedi cynnal trafodaethau ynglyn a'r posibilrwydd o arwyddo un newydd.