Ymchwilio i farwolaeth menyw 29 oed yn Llanelli

Heol Elfed Image copyright Google
Image caption Cafodd y fenyw ei darganfod mewn tŷ yn Heol Elfed yn Llanelli

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i farwolaeth menyw 29 oed gafodd ei darganfod yn Llanelli ar 11 Ionawr.

Cafodd y fenyw ei darganfod mewn tŷ yn Heol Elfed.

Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth yn un heb ei hesbonio ar hyn o bryd.

Mae'r teulu a'r crwner wedi cael gwybod.